Job 36

Elihw yn sôn am fawredd Duw

1A dyma Elihw yn mynd ymlaen i ddweud:

2“Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig,
mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
3Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell,
a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
4Wir i ti, heb air o gelwydd,
mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
5Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus;
mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
6Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw;
mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
7Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
Mae'n eu hanrhydeddu nhw,
a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.
8Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion,
wedi eu rhwymo â rhwydi gorthrwm,
9mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhw
i droseddu, a bod mor haerllug.
10Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu,
a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.
11Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo,
byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau,
ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.
12Ond os na fyddan nhw'n gwrando,
byddan nhw'n croesi afon marwolaeth,
ac yn darfod heb ddeall dim.
13Mae pobl annuwiol yn dal dig;
dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
14Maen nhw'n marw'n ifanc,
ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr.
15Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl,
ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.
16Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid,
o'r gornel gyfyng i le agored;
at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.
17Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg,
a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.
18Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth,
ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.
19Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul?
Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!
20Paid dyheu am y nos,
pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.
21Gwylia rhag troi at y drwg –
dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.
22Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol;
Pwy sy'n athro tebyg iddo?
23Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud?
Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?
24Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,
sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.
25Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,
mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.
26Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;
does dim modd cyfri hyd ei oes e!
27Mae'n codi dafnau o ddŵr
sy'n diferu'n law mân fel tarth.
28Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,
mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.
29Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,
a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?
30Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,
ac yn goleuo gwaelod y môr.
31Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd,
ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw.
32Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo,
ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed.
33Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dod
mewn storm, yn angerdd ei lid.
Copyright information for CYM